Genesis 9

Ymrwymiad Duw a Noa

1Dyma Duw yn bendithio Noa a'i feibion, a dweud wrthyn nhw: “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear. 2Bydd gan yr anifeiliaid, yr adar, pob creadur bach arall a'r pysgod eich ofn chi. Byddwch yn eu rheoli nhw. 3Bellach cewch fwyta unrhyw greadur byw, nid dim ond planhigion fel o'r blaen. 4Ond rhaid i chi beidio bwyta cig sydd â bywyd yn dal ynddo (sef y gwaed). 5Mae tywallt gwaed dynol yn rhywbeth sy'n rhaid ei gosbi. Rhaid lladd unrhyw anifail gwyllt sy'n gwneud hynny. A rhaid i berson sy'n lladd rhywun arall farw hefyd, am fod pobl yn frodyr a chwiorydd i'w gilydd.

6Mae rhywun sy'n lladd person arall
yn haeddu cael ei ladd ei hun,
am fod Duw wedi creu'r ddynoliaeth
yn ddelw ohono'i hun.

7Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi drwy'r byd i gyd.”

8A dyma Duw yn dweud wrth Noa a'i feibion, 9“Dw i am wneud ymrwymiad i chi a'ch disgynyddion, 10a hefyd gyda pob creadur byw – adar, anifeiliaid dof a phob creadur arall ddaeth allan o'r arch. 11Dw i'n addo na fydda i byth yn anfon dilyw eto i gael gwared â phopeth byw ac i ddinistrio'r ddaear. 12A dw i'n mynd i roi arwydd i chi i ddangos fod yr ymrwymiad dw i'n ei wneud yn mynd i bara am byth: 13Dw i'n rhoi fy mwa yn y cymylau, a bydd yn arwydd o'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud gyda'r ddaear. 14Pan fydd cymylau yn yr awyr, ag enfys i'w gweld yn y cymylau, 15bydda i'n cofio'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud i chi a phob creadur byw. Fydd llifogydd ddim yn dod i ddinistrio bywyd i gyd byth eto. 16Pan fydd enfys yn y cymylau bydda i'n cofio'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud gyda phob creadur byw sydd ar y ddaear.” 17A dyma Duw yn dweud wrth Noa, “Dyma'r arwydd sy'n dangos y bydda i'n cadw'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud gyda phopeth byw ar y ddaear.”

Noa a'i feibion

18Shem, Cham a Jaffeth oedd enwau meibion Noa ddaeth allan o'r arch. (Cham oedd tad Canaan.) 19Roedd y tri ohonyn nhw yn feibion i Noa, ac mae holl bobloedd y byd yn ddisgynyddion iddyn nhw.

20Roedd Noa yn ffermwr. Fe oedd y cyntaf un i blannu gwinllan. 21Yfodd Noa beth o'r gwin, a meddwi. Tynnodd ei ddillad a gorwedd yn noeth yn ei babell. 22Dyma Cham, tad Canaan, yn edrych ar ei dad yn noeth ac yna'n mynd allan i ddweud wrth ei frodyr. 23Ond dyma Shem a Jaffeth yn cymryd clogyn a'i osod ar eu hysgwyddau. Wedyn dyma nhw'n cerdded at yn ôl i mewn i'r babell a gorchuddio corff noeth eu tad. Roedden nhw yn edrych i ffwrdd wrth wneud hyn, felly wnaethon nhw ddim gweld eu tad yn noeth.

24Ar ôl i Noa ddeffro a sobri, clywodd beth roedd ei fab ifancaf wedi ei wneud, 25ac meddai,

“Melltith ar Canaan!
bydd fel caethwas dibwys i'w frodyr.”

26Wedyn dwedodd Noa,

“Bendith yr Arglwydd Dduw ar Shem!
Bydd Canaan yn gaethwas iddo.
27Boed i Dduw roi digonedd o le
9:27 digonedd o le Hebraeg,  iafft sy'n debyg i'r enw Jaffeth
i Jaffeth,
a gwneud iddo gyd-fyw'n heddychlon gyda Shem.
A bydd Canaan yn gaethwas iddo yntau hefyd.”

28Buodd Noa fyw 350 mlynedd ar ôl y dilyw. 29Felly roedd Noa yn 950 oed yn marw.

Copyright information for CYM